Mae CALL CIC (‘Culture Action Llandudno’ – cwmni er budd cymunedol) yn fenter gymdeithasol ac yn gadarnhad o’r bartneriaeth arloesol rhwng Ystadau Mostyn a Helfa Gelf Cyf.
Ein nod yw hyrwyddo adfywiad o dref Llandudno sy’n seiliedig ar diwylliant a phrofiad, gan roi’r celfyddydau a diwylliant wrth galon datblygiad ac esblygiad hir-dymor y dref. Byddwn yn canolbwyntio nid yn unig ar agweddau economaidd a swyddogaethol ar adfywio ond ar ddimensiynau cymdeithasol a chynaliadwy hefyd.
Gwelwn hwn yn gyfle i wneud rhywbeth gwreiddiol a chyffrous a allai, yn yr hir dymor, arwain at ddatblygu’r dref fel cyrchfan ddiwylliannol o bwys yng ngogledd orllewin Cymru, ac at sicrhau buddion i’r economi leol a denu twristiaid diwylliannol.
Ein nod yw trawsnewid Llandudno a’i ‘Mannau Coll’ a hynny trwy brocio’r meddwl a chynnig rhaglenni cyffrous a fydd yn arwain at ail-ddychmygu’r mannau hyn a’u hadfywio mewn ffyrdd sydd o fudd i bawb.
Bydd y ddeialog y bwriadwn ei chreu ynglŷn â’r ‘Mannau Coll’ hyn yn rhan greiddiol o ddatblygiadau mewn cynllunio trefol, darpariaeth ddiwylliannol a’r cyfleoedd i ymwneud ac ymgysylltu â’r dref.
This post is also available in: English