Mae prosiect celfyddydol yn Llandudno yn archwilio’r ffyrdd y gall diwylliant a threftadaeth fod o fudd i’r economi a’r gymuned leol. Mae menter gymdeithasol CALL (‘Culture Action Llandudno’) yn dod ag artistiaid i’r dref, yn rhan o brosiect o’r enw ‘Siapio Fy Nhref’.
Mae arweinydd y prosiect, Ailie Rutherford, yn archwilio ‘Llandudno Dan yr Wyneb’ yn ei phrosiect ‘Undercurrents’, ac fe gynhelir dau ddigwyddiad newydd yn Llandudno ym mis Ionawr.
Dywedodd Ailie:
“Dw i’n edrych am bobl i fod yn rhan o grŵp ‘Ymgyrchu Creadigol’ newydd a chyffrous. Hoffem wahodd pobl o gefndiroedd o bob math i gymryd rhan mewn sgwrs gychwynnol. Dw i’n gobeithio dod ag artistiaid, meddylwyr creadigol ac ymgyrchwyr lleol ynghyd i edrych ar ffyrdd posib o weithio gyda’n gilydd.”
Yn ddiweddar, bu Ailie’n ceisio sbarduno trafodaethau yn Llandudno trwy fynd â ‘Mynydd Iâ’ allan i’r dref ac annog pobl i sgwrsio ac i ysgrifennu negeseuon.
Yn ôl Ailie:
“Rhan waelod ‘Mynydd Iâ’ yw’r model – y màs enfawr yna sydd o dan yr wyneb ac sydd yn anweledig. Dw i’n defnyddio’r syniad hwnnw fel ffordd i ysgogi trafodaeth. Rydym yn trafod y datblygiadau economaidd sydd dan yr wyneb ac sydd yn effeithio arnom bob un. Cefais fy synnu ba mor gyflym y trodd fy sgyrsiau yn Llandudno at ystyriaethau gwleidyddol. Dw i wedi trafod anghydraddoldeb, digartrefedd, banciau bwyd a’r defnydd o’r môr gyda thrigolion lleol.
Dw i’n gobeithio y bydd y digwyddiadau i ddod yn datgelu ffyrdd newydd o gyfuno ein sgiliau er mwyn ysgogi’r newidiadau yr ydym am eu gweld, er mwyn cryfhau cysylltiadau ac er mwyn ail-ddychmygu Llandudno fel canolfan ar gyfer gweithredu creadigol yng ngogledd Cymru.”
Cynhelir y cyfarfodydd ‘Ymgyrchu Creadigol’ cyntaf ar ddydd Mawrth, 16 Ionawr 2018, yng Nghanolfan Gymunedol Craig y Don, Llandudno, rhwng 5.30 a 7.30pm ac ar ddydd Mercher, 17 Ionawr 2018, yn Nhŷ Tedder, 26 Augusta St, Llandudno, rhwng 2.00 a 4.00pm. Gallwch gadw lle ar-lein er mwyn cymryd rhan: https://www.cultureactionllandudno.co.uk/events/.
Yn ôl Sabine Cockrill, Cyfarwyddwr CALL:
“Rydym wedi trefnu ein preswyliadau artistig fel bod yr artistiaid hynny’n gallu cydweithio â’r gymuned leol.
Gwelwn y prosiect hwn yn gyfle i wneud rhywbeth gwreiddiol a chyffrous a allai arwain at ddatblygu’r dref fel cyrchfan ddiwylliannol o bwys yng ngogledd Cymru, ac at sicrhau buddion i’r economi leol ac at ddenu twristiaid diwylliannol.”
Mae’r prosiect hwn yn ganlyniad i fenter gydweithredol a chymorth ariannol cronfa Syniadau: Pobl: Lleoedd Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ystadau Mostyn Cyf.
I gael mwy o wybodaeth am ein sesiynau Ymgyrchu Creadigol ac am yr holl artistiaid sy’n cymryd rhan ym mhrosiect ‘Siapio Fy Nhref’, ewch i www.cultureactionllandudno.co.uk.
This post is also available in: English