Amgueddfa Lwch 03 Gorffennaf 2016
Mae’r artist Sarah Younan yn creu ‘Amgueddfa Lwch’ i ddathlu diwedd ei chyfnod preswyl yng Nghapel hanesyddol y Tabernacl yn Llandudno y Sul hwn. Dros yr 20 diwrnod diwethaf, bu Sarah’n glanhau’r capel yn ddefodol, gan godi am 4.30am a glanhau tan 8.30pm. Mae’r artist wedi trawsnewid y gofod trwy ddefod, ac wedi creu ei sebon a’i chŵyr ei hun ar gyfer glanhau’r adeilad ar ei phen ei hun.
Cafodd Sarah ei hysbrydoli i lanhau ar ôl gweld pwll bedydd unigryw y capel hardd, sydd yn gofeb gofrestredig Gradd 2. Arweiniodd y syniad o lanhau’r enaid at feddwl am lanhau’r adeilad, a fu’n wag ers nifer o flynyddoedd.
Dywedodd Sarah, sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd, “Treuliais fy amser yn yr adeilad ar fy mhen fy hun, er mwyn ‘rhyddhau’r adeilad a rhyddhau fy hun’.”
Yn ystod y broses o lanhau, aeth ati i gasglu llwch a malurion o’r capel. Defnyddiodd y rhain i greu gwaith celfyddydol ar gyfer yr ‘Amgueddfa Llwch’, a fydd yn cael ei chyflwyno yn y festri yn ystod yr arddangosfa derfynol ar ddydd Sul.
Dywedodd Sabine Cockrill, Cyfarwyddwr Culture Action Llandudno (CALL CIC):
“Sefydlwyd CALL i archwilio’r posibiliadau ar gyfer adfywio adeiladau anghofiedig neu ‘Fannau Coll’ Llandudno. Mae Sarah wedi newid y capel – mae wedi ei adfer a’i ddychwelyd i’w ogoniant blaenorol trwy ei lanhau. Mae’r gofod erbyn hyn yn edrych fel petai wedi cael ei garu. Mae’r prosiect, sy’n rhan o gynllun Preswyliadau Tabernacl neu TABLAB (Labordy Tabernacl), yn cynnig amser a lle i archwilio adeiladau ac i feddwl am eu lle a’u rôl yng nghymuned Llandudno – yn ogystal â photensial ar gyfer adfywiad.”
Mae’r prosiect hwn yn ganlyniad i fenter gydweithredol a chymorth ariannol cronfa ‘Syniadau : Pobl : Lleoedd’ Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ystadau Mostyn Cyf.
Bydd y digwyddiad terfynol hefyd yn cynnwys sgwrs gyda Churadur TABLAB, Marc Rees, ffilm newydd gan y gwneuthurwr ffilmiau lleol, Matt Sydall, sy’n dangos Sarah’n glanhau, a ffrog fedydd wreiddiol ar fenthyg gan Amgueddfa Llandudno.
Dyddiadau’r Arddangosfa Derfynol:
Sul 3 Gorffennaf 2-5pm, Sgwrs â’r Artist am 3pm
Darperir lluniaeth ysgafn.
“Mae croeso i bawb alw draw i’r Capel ar ddydd Sul. Dewch am 3pm i ddysgu mwy am ddatblygiad y prosiect ac am Sarah ei hun. Rydym yn gobeithio y bydd cymuned Llandudno yn mwynhau ystyried yr adeilad, ei gadwraeth a’r modd y mae glanhau Sarah wedi arwain at newid cynnil ond pwysig,” meddai Sabine.
This post is also available in: English