Prosiect cyntaf CALL dan faner “Mannau Coll” fydd at:sain | re:verb, prosiect dan arweiniad Marinella Senatore, artist o’r Eidal, sydd yn gweithio gyda channoedd o bobl ar brosiectau diwylliannol ar raddfa fawr IAWN. Bydd Marinella yn gweithio yn Llandudno rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2015. Yn y lle cyntaf, bydd hi’n casglu straeon gan bobl leol am eiliadau coll yn eu bywydau – a gall y rheiny fod yn straeon am unrhyw beth a phopeth.
O’r sesiynau cychwynnol hyn, bydd Marinella yn gweithio ar y cyd â’r rheiny sy’n dymuno adrodd eu straeon, er mwyn creu saith stori o Landudno.
Cam nesaf y prosiect wedi hynny fydd i’r rheiny sy’n dymuno gwneud weithio gyda choreograffwyr Marinella i ddod o hyd i ffyrdd o fynegi eu storïau trwy ddulliau di-eiriau. Ni fydd hi’n fater o “ddysgu pobl i ddawnsio”. Hanfod y prosiect, yn hytrach, yw y caiff ei arwain gan y cyfranogwyr eu hunain. O ran symudiad a dawns, felly, caiff pobl eu hannog i wneud yr hyn y maent yn gyffyrddus yn ei wneud – a dim mwy na hynny. Nid pawb sy’n adrodd stori fydd yn gorfod symud ymlaen i’r rhan honno o’r prosiect.
Wedi hynny, bydd Marinella yn dechrau datblygu sgriptiau ar gyfer y saith ffilm fer.
Ar ôl wythnos o sesiynau hyfforddi technegol ym mis Ebrill, a fydd yn agored i bob un, rhan olaf y prosiect rhyfeddol hwn fydd ffilmio’r saith ffilm fer ar leoliad yn ardal Llandudno. Bydd Marinella a’i thîm yn sicrhau bod cyfranogwyr yn dysgu’r holl sgiliau angenrheidiol er mwyn gallu gwneud hynny.
Dylid nodi bod tîm Marinella, sydd erbyn hyn yn arbenigwyr cydnabyddedig yn eu meysydd, yn aelodau o brosiect gwirfoddol eu hunain ar un adeg.
Mae angen cannoedd o bobl ar y prosiect uchelgeisiol hwn: perfformwyr, cerddorion, cantorion, gwneuthurwyr gwisgoedd, dawnswyr, mabolgampwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, technegwyr goleuo a sain a storïwyr. Mae croeso i bob un, yn weithwyr proffesiynol ac amaturiaid. Mae’r elfen “amatur” yn bwysig i Marinella. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chreu cyfleoedd i bobl a’u helpu nhw i ddysgu sgiliau newydd.
Byddwn yn trafod darlledu’r straeon a’r ffilmiau â’r wasg leol a chenedlaethol, er mwyn i’r gweithiau gyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib. D’yn ni ddim eisiau addo pethau amhosib ond mae darllediadau cyfryngol yn un o amcanion y prosiect.
Felly rhowch y gair ar led os gwelwch yn dda!
Os hoffech chi ymuno ag at:sain | re:verb, neu os ydych yn adnabod rhywun arall y gallai’r prosiect fod o ddiddordeb iddyn nhw, rhowch wybod i ni drwy e-bostio info@cultureactionllandudno.org.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd Marinella a’i thîm yn Llandudno. Cynhelir cyfarfodydd cyntaf y prosiect hwn rhwng 12 a 14 Chwefror a 3 a 7 Mawrth, 2015.
Os oes diddordeb gennych yn y prosiect ond os ydych chi’n awyddus i gael mwy fyth o fanylion, cewch ddigonedd o wybodaeth am Marinella Senatore a CALL ar www.cultureactionllandudno.org.
Marinella Senatore
Project introductions and story gathering sessions
Marinella Senatore
Elisa Zucchetti & Nandhan Molinaro, Choreographers
Developing ideas about how to tell the stories gathered through movement
Elisa Zucchetti & Nandhan Molinaro, Choreographers
Marinella Senatore & Arianna Carosi, Video Editor
Technical training sessions e.g. how to use a camera, how to light, how to record sound for a video
Marinella Senatore & Arianna Carosi, Video Editor
Marinella Senatore & full crew
Shooting the 7 videos
Marinella Senatore & full crew
7 videos edited and finished
All participants, families, friends and stakeholders
Celebratory screening of videos
All participants, families, friends and stakeholders
This post is also available in: English
Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych chi'n cytuno i ddefnyddio cwcis. mwy o wybodaeth
The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.