Mae’r Wal yn
Bellach gelwir prosiect CALL Tre Cwm Celf yn The Wall Is _____, cydweithrediad rhwng trigolion ystâd dai Tre Cwm a’r artist preswyl Kristin Luke. Maent yn datblygu gwaith celf ar gyfer wal derfyn yr ystâd, gan ganolbwyntio ar y broses a’r profiadau sy’n cronni o amgylch y prosiect wrth iddo ddatblygu, a sut mae’r rhain yn effeithio ar les cyffredinol y gymuned.
Agwedd Luke at y prosiect yw trin yr ystâd fel maes o arwyddocâd diwylliannol. Bydd y wal yn safle sy’n adlewyrchu hunaniaeth y stâd, p’un a yw’n hanesyddol, yn gyfoes, yn y dyfodol, yn fyw neu’n ddychmygol. Gall pobol sydd yn mynd heibio yn ddarganfod straeon hynod ddiddorol, a oedd unwaith yn gudd, a bydd yn gallu cyrchu platfform digidol o’r wal ei hun, a fydd yn ehangu ar y prosiect i gyd. Felly ni fydd y wal yn rhwystr mwyach, ond yn hytrach yn gatalydd ar gyfer cysylltu’r gymuned yn gorfforol ac yn ddigidol.
Cyhoeddwyd cam cyntaf y prosiect gyda chyfres o ddigwyddiadau yn fan Kristin, sef gofod prosiect symudol. Roedd yn gartref i arddangosfa o hanes yr ystâd, gweithgareddau taflu syniadau gweledol, a ‘Object Shares’ – sesiynau i breswylwyr rannu, a gwneud modelau 3D digidol o’r hyn sy’n ffurfio hunaniaeth, gwerthoedd a diwylliant materol Tre Cwm. Agorodd y digwyddiadau hyn ddeialog am orffennol, presennol a dyfodol yr ystâd trwy ddychmygu naratifau, wedi’u llywio gan realiti estynedig, dogfennau hanesyddol, a sgiliau a diddordebau’r preswylwyr eu hunain. Llywiodd y digwyddiadau cyntaf hyn gamau nesaf y prosiect.
Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys Tîm Wal gwirfoddol, y gall preswylwyr ymuno i helpu i wneud penderfyniadau, arwain dros agweddau penodol, dysgu sgiliau ymarferol a phroffesiynol newydd, a helpu i arwain cyfeiriad y prosiect. Fel aelodau o’r Tîm Wal, gall preswylwyr hefyd geisio cefnogaeth i gymryd y camau nesaf i ymgorffori’r sgiliau hyn ymhellach yn eu dewisiadau am eu bywyd a gyrfa tymor hir.
Cymerwch ran
Os ydych chi’n byw ar ystâd Tre Cwm yn Llandudno, nid yw’n rhy hwyr i gymryd rhan. Dilynwch Trecwm ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd, ble a phryd.
Dilynwch y prosiect
Twitter/Facebook/Instagram/Youtube: Trecwm
kristinluke.tumblr.com
Kristin Luke
Kristin Luke bio
Yn enedigol o Los Angeles ac wedi byw yn Llundain am y 12 mlynedd diwethaf, symudodd Luke i Eryri yn 2017. Mae’n gweithio mewn ystod o ddisgyblaethau – cerflunio, dylunio digidol, ffilm, ac ysgrifennu – ac mae’n ymgysylltu â themâu addysgeg radical, symudedd, ac iwtopias. Ymagwedd Luke yw creu amgylchedd o sensitifrwydd, didwylledd i wybodaeth leol, a dysgu an-hierarchaidd. Mae hi’n cymryd rôl cynigydd ar gyfer anghenion hunan-ddynodedig, sgiliau unigryw, crefftau, diwylliant a thraddodiadau’r cymunedau penodol y mae’n gweithio gyda nhw. Mae hi hefyd yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd adeiladu perthnasoedd tymor hir yn ei rôl fel artist.
Mae’r ystod o wahanol sectorau y mae ei gwaith yn rhychwantu yn parhau i dyfu, ac mae hi wedi bod yn rhan o brosiectau nid yn unig mewn orielau, ond mewn ysgolion, canolfannau cymunedol, ystadau cynghorau, neuaddau tref a chyn-siopau. Mae hi hefyd wedi trosi fan yn llyfrgell symudol a gofod prosiect sy’n teithio o amgylch Prydain, gan wneud gwybodaeth yn weladwy ac yn hygyrch i’r cyhoedd amrywiol.
instagram.com/kristinjluke
This post is also available in: English