Mae menter celfyddyd gymunedol yng nghanol Llandudno yn awyddus i drafod dyfodol Tŷ Tedder, hen glwb y RAFA ar Stryd Augusta, gyda chyfranogwyr ac aelodau o’r gymuned ehangach. Mae yna wahoddiad i bob un ddod at ei gilydd dros benwythnos 10/11 Rhagfyr ar gyfer dau ddigwyddiad a fydd yn ein helpu ni i sefydlu cynllun 2017.
Yn ddiweddar, bu Culture Action Llandudno CIC (CALL) yn defnyddio’r gofod i gyflwyno Ysgol Gelf FreeHaus. Roedd y prosiect arloesol hwn yn fodd i ddarparu ysgol gelf dros yr haf, a honno’n agored i bawb, yn ddechreuwyr hollol neu’n bobl greadigol brofiadol.
“Roedd rhaglen yr ysgol gelf yn gyfle i fyfyrwyr ddysgu sgiliau newydd ac i arbrofi. Fe ddefnyddion ni’r adeilad hefyd fel gofod preswyl i artistiaid ac fe gynhaliwyd sawl digwyddiad llwyddiannus iawn gyda’r hwyr. Rydym yn awyddus i glywed syniadau pobl ar gyfer yr hyn a ddylai ddigwydd yno nawr a sut y gallwn ddatblygu ac estyn y defnydd a wneir o’r adeilad yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn clywed gan fentrau i artistiaid eraill ledled y DG – byddan nhw’n ein helpu ni i gynllunio,” meddai Emrys Williams, artist arweiniol gyda’r prosiect.
Bydd Ysgol Gelf FreeHaus yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr am 2pm. Bydd yna lawer o weithgareddau gwahanol, gan gynnwys ‘Creu cardiau a phapur lapio Nadolig’ gyda’r artistiaid Nadine Carter-Smith, Nyree Waters a Sophie Lee.
“Mae croeso i bobl o bob oed a phob gallu; mae’r ysgol gelfyddyd yn agored i bawb. Bydd yna fins peis, gwin cynnes a thrafodaethau anffurfiol er mwyn clywed barn pobl am weithgarwch y flwyddyn nesaf,” meddai Emrys.
Mae’r tîm hefyd yn eich gwahodd i gael ‘brunch’ gyda nhw ar ddydd Sul 11 Rhagfyr am 11am ac i glywed gan rai o artistiaid eleni yn siarad am eu gwaith. Bydd cyfle i glywed hefyd gan gynrychiolwyr gwahanol fentrau cymunedol ledled y DG.
Cyflwynir y prosiect hwn gan fenter gydweithredol CALL, gyda chymorth ariannol grant gan gronfa ‘Syniadau: Pobl: Lleoedd’ Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ystadau Mostyn Cyf. Mae’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim; i gadw lle, i nodi eich diddordeb neu i gael mwy o wybodaeth am ein siaradwyr a’n gweithgareddau, ewch i https://www.cultureactionllandudno.co.uk/events/ .
“Mae gennym gyfle nawr i ddatblygu llwyddiant Ysgol Gelf FreeHaus ac i wneud rhywbeth gwreiddiol a chyffrous. Rydym yn gobeithio y gall yr adeilad hwn fod, yn yr hir-dymor hir, yn gyrchfan ddiwylliannol allweddol i’r dref,” meddai Sabine Cockrill, Cyfarwyddwr CALL, Culture Action Llandudno (CIC).
This post is also available in: English