Bu’r artist, Owen Griffiths, yn gweithio gyda phreswylwyr ar Stad Dai Tre Cwm yn Llandudno i ddatblygu syniadau er mwyn adfywio cornel o’r stad. Cynhaliodd Owen a’r Cynhyrchydd Creadigol, Isabel Griffin, sesiynau celfyddyd gymunedol yn ystod misoedd Gorffennaf, Awst a Medi er mwyn sicrhau bod trigolion yn ymwneud yn agos â’r dyluniad.
Dywedodd Owen Griffiths, artist rhyngwladol sy’n gweithio yng Nghymru a Denmarc:
“Buom yn gweithio ym Mharc Bodnant ar Stad Tre Cwm, mewn man anghofiedig – ardal a arferai gael ei defnyddio i sychu dillad. Mae’r ardal hon wedi troi’n fan gwag, heb bwrpas. Rydym yn gweithio gyda’r gymuned, a thrigolion ifainc yn enwedig, i gynhyrchu syniadau a’u datblygu yng nghyd-destun gosodiadau celfyddydol dros dro a newidiadau posib yn y tymor hwy. Rydym yn datblygu ymdeimlad o gydawduraeth wrth ailddychmygu ac ailgynllunio’r mannau coll hyn.”
Mae’r prosiect, o’r enw ‘Ffactri’, yn rhan o gynllun Culture Action Llandudno CIC (CALL cic) i drawsnewid ‘Mannau Coll’ Llandudno – adfywio’r amgylchfyd adeiledig a bywiogi bywyd yn y gymuned trwy gyfrwng celfyddyd a diwylliant. Y nod yw annog pobl leol i deimlo perthynas newydd gadarnhaol â’u hamgylchfyd adeiledig. Mae’r prosiect hwn yn ganlyniad i fenter gydweithredol a chymorth ariannol cronfa Syniadau : Pobl : Lleoedd Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ystadau Mostyn Cyf, sy’n gweithio ar y cyd â Chymdeithas Dai Cartrefi Conwy.
Mae gweithgarwch CALL yn Nhre Cwm yn rhan o brosiect adfywio amgylcheddol ehangach ar y stad sydd yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd gan Cartrefi Conwy. Bydd hwnnw’n arwain at newidiadau i’r ardal gyfan ac yn cynnwys llwybrau a mannau chwarae newydd, ardaloedd wedi’u tirlunio, cyfleuster parcio a threfn ffyrdd newydd.
Dywedodd Clare Phipps, Cydlynydd Cyfranogiad Cymunedol Cartrefi Conwy:
“Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd yn agos iawn ag athroniaeth Cartrefi Conwy y dylai newidiadau corfforol i ardal gael eu hategu gan ymwneud cymunedol a newid cymdeithasol. Rydym yn credu bod gwneud i bobl deimlo’n rhan o bethau yn meithrin teimlad o falchder yn eu hardaloedd ac rydym yn ceisio datblygu stad Tre Cwm yn rhan o’n prosiect adfywio ehangach. Mae’r gwaith yn Nhre Cwm yn dilyn prosiect amgylcheddol o bwys ar stad Peulwys, y stad dai gyntaf yng Nghymru i dderbyn Gwobr Baner Werdd.”
Ym misoedd Gorffennaf, Awst a Medi, cynhaliodd Owen ac Isabel weithdai galw heibio a oedd yn cynnwys gweithgareddau gwneud masgiau, paentio a dylunio, adeiladu cuddfannau, gwehyddu a barddoniaeth.
Dywedodd Owen:
“Mae yna ddeinameg dinesig i’r gofod. Mae’n agos at gefn gwlad ond, yn ei hanfod, tirwedd trefol sydd yma. Fe gynhalion ni weithdai celf am eu bod yn ffordd ardderchog o annog trafodaeth. Mae dysgu a gwneud pethau gyda’ch dwylo yn eich rhyddhau i drafod cynlluniau a syniadau. Rydym yn ymchwilio i’r gofod hwn drwy wneud rhywbeth gweithredol yn hytrach na rhywbeth mwy ffurfiol fel gofyn ‘Beth hoffech chi ei weld yn y gofod hwn?’ Mae hi’n fater o annog pobl i ymuno â’r sgwrs a chymryd rhan mewn proses fwy pwyllog o sicrhau newid cadarnhaol i’w hamgylchfyd.”
Mae Owen ac Isabel wrthi ar hyn o bryd yn datblygu’r syniadau a ddaeth allan o’r sesiynau gweithdy hyn ac fe gaiff y dyluniad gorffenedig ei gynnwys yn rhan o brosiect adfywio Cartrefi Conwy y flwyddyn nesaf. Gweithiodd y bobl leol â brwdfrydedd gyda’r artistiaid a’r gobaith yw y bydd y profiadau newydd hyn yn cael dylanwad cadarnhaol ac yn eu perswadio y gallan nhw gael dylanwad cadarnhaol yn eu tro ar yr ardal y maent yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddi.
This post is also available in: English